Cyrsiau Hyfforddi
Rheoli Traffig Gwaith Symudol
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i alluogi cwmnïau RhT benodi unigolyn i ddylunio a rheoli trefnau cau Math B i’r diben o osod, cynnal a thynnu offer rheoli traffig dros dro ar ffyrdd cyflymder mawr yr Asiantaeth Priffyrdd
Hyd: Cwrs hyfforddi dau ddiwrnod oddi ar y safle ar gyfer uchafswm o 8 ymgeisydd. Amcanion L.T.M.O.
Sesiwn Un: Ar ddiwedd y sesiwn hwn dylai mynychwyr:
- Fod yn ymwybodol o ofynion cynllun rheoli traffig y sector mewn perthynas â’i gefndir a gofynion safle, yn enwedig ym maes hyfforddiant a'r cymwysterau sy'n ofynnol.
- Bod yn ymwybodol o ofynion iechyd a diogelwch cyffredinol yn y gwaith yn ogystal â rhai, sy'n benodol i'r diwydiant rheoli traffig.
- Bod yn ymwybodol o Asesiadau Risg a Datganiadau Dull.
Sesiwn Dau: Ar ddiwedd y sesiwn hwn dylai mynychwyr:
- Deall pwysigrwydd TSRGD mewn perthynas â defnyddio arwyddion ar y briffordd gyhoeddus
- Gallu adnabod yr arwyddion ar gyfer rheoli traffig dros dro
- Deall pwysigrwydd Safonau Prydeinig wrth nodi offer rheoli traffig
- Bod yn ymwybodol o'r dogfennau cyfeirio a ddefnyddir ym maes rheoli traffig
Deall y darpariaethau perthnasol ym mhennod 8 y Llawlyfr Arwyddion Traffig mewn mathau arbennig o waith
- Diffiniadau Safle
- Mathau ac addasrwydd offer
- Lleoli a gosod offer ar y safle.
- Cerbydau Rheoli Traffig
Sesiwn Tri: Ar ddiwedd y sesiwn hwn dylai mynychwyr:
- Fod yn ymwybodol o'r gwahanol ddulliau o osod, cynnal a symud sydd ar waith yn y diwydiant rheoli traffig
- Gallu cynllunio a dylunio cynlluniau rheoli traffig i hwyluso rhedeg un lôn ar gyfer gwaith math B ar adrannau dwy a thair lôn ffyrdd deuol a thraffyrdd
- Gallu cyfrifo’r gofynion offer ar gyfer gwaith math B ar adrannau dwy a thair lôn ffyrdd deuol a thraffyrdd
Sesiwn Pedwar: Ar ddiwedd y sesiwn hwn dylai mynychwyr:
- Allu deall rolau a chyfrifoldebau'r LTMO a bod yn ymwybodol o sut i ddelio â'r cleient, y cyhoedd a'r heddlu.
Profion
Papur cwestiynau gorfodol (ysgrifenedig)
Caniateir 90 munud
Marc pasio o 75%
Pwy ddylai fynychu?
Gweithwyr Cymwys 12B
Caniateir ymgeiswyr sydd ddim yn gymwys cyn belled eu bod yn pasio’r diwrnod hyfforddiant 12A/B LANTRA
Rhagofynion y Cwrs
Dylai gweithwyr rheoli traffig fod â phrofiad perthnasol yn y diwydiant
Corff Dyfarnu
LANTRA AWARDS