Unedau Cefnogi Digwyddiadau
Defnyddir Unedau Cefnogi Digwyddiadau ar ben prysuraf rheoli traffig pan fo rhywbeth wedi digwydd. Mae diogelwch yn hollbwysig yn y sefyllfaoedd hyn ac mae ein cerbydau rheoli traffig arbenigol wedi eu cynllunio i fod yn hynod weladwy i ddefnyddwyr eraill y ffordd ac yn hawdd i’w gweithio.
Mae'r ISU uchod yn nodweddiadol, gydag adrannau y gellir ei gloi, arwyddion rhybudd gwelededd amlwg a goleuadau rhybuddio.
Mae Swords Traffic Management yn ymfalchïo yn ein gallu i gynhyrchu cerbydau i fanylebau ein cleientiaid. Mae gennym hefyd fflyd helaeth o gerbydau rheoli traffig i'w llogi. Rhowch ganiad i ni ar 01978 664423 neu 07810 745656. Fel arall, llennwch ffurflen ymholiadau ac fe gysylltwn â chi cyn gynted â phosibl.
Triniaeth Colli Olew
Mae ein huned colli olew chwyldroadol ar drelar yn darparu system triniaeth gollyngiadau hawdd i’w gweithio. Mae'r gweithiwr yn cyrraedd y lleoliad, yn dechrau’r chwistrell o bell o du mewn y cab, ac yn syml yn gyrru trwy’r ardal lle collwyd yr olew i'w drin. Mae'r cynnyrch trin olew bioddiraddadwy yn torri’r olew lawr i doddiant amgylchedd cyfeillgar a all lifo’n syml i ddraen naturiol.
Mae'r manteision yn cynnwys:
- triniaeth gyflym
- gwaith un dyn
- yn ddiogel i’r gweithiwr gan nad oes raid iddo adael y cerbyd