Rheolaeth Gyfrifiadurol yn y Cab
Uned rheoli CAN bus yn y cab
Mae’r nodwedd CAN bus yn rheoli'r swyddogaeth clustog i fyny/ clustog i lawr gyda golygfa glir ar y sgrin fel y mae'n digwydd a chadarnhad llais clywadwy o’r gwaith.
- Mae CAN bus yn rheoli codi/ gollwng y bwrdd saeth lifft fertigol gyda golygfa lawn o’r gwaith a chadarnhad llais clywadwy o’r gwaith
- Mae CAN bus yn rheoli’r swyddogaeth goleuadau pedair ffordd gyda chadarnhad llais clywadwy o’r gwaith
- Mae CAN bus yn rheoli’r swyddogaeth goleuadau ardal waith a hefyd unrhyw gamera i'r ardal waith a chadarnhad clywadwy o’r gwaith
- Mae CAN bus yn rheoli’r swyddogaeth brêc awtomatig (ni fydd y cerbyd yn symud ar ôl pwyso’r botwm hwn nes bod y brêc awtomatig wedi cael ei ddiffodd a’i ail-gysylltu); hefyd gyda chadarnhad clywadwy o’r gwaith
- Mae CAN bus yn rheoli'r goleufâu a goleuadau dewisol eraill gyda chadarnhad llais gweledol a chlywadwy
Gyda'i sgrin aml-weld, gall yr uned hon ymgymryd â nodweddion ychwanegol hefyd os oes angen:
- Safle I.E. G.P.S.
- Camerâu ochr ychwanegol
- Camerâu ar ardal waith/ goleuadau i ardal waith
Gyda rheolaeth o gyffyrddiad botwm, gall eich gyrrwr weld unrhyw waith yn llawn neu gyfuniad o sgriniau, sy'n cadw’r gyrrwr yn llwyr ymwybodol o bopeth sy’n digwydd yn ac o amgylch y cerbyd.
Mae Swords Traffic Management yn ymfalchïo yn ein gallu i gynhyrchu cerbydau i fanylebau ein cleientiaid. Mae gennym hefyd fflyd helaeth o gerbydau rheoli traffig i'w llogi. Rhowch ganiad i ni ar 01978 664423 neu 07810 745656. Fel arall, llennwch ffurflen ymholiadau ac fe gysylltwn â chi cyn gynted â phosibl.
Ar gyfer Iwerddon, ffoniwch Richard ar 00353 086 7812526.