Cerbydau Diogelu rhag Trawiad (IPVs)

Yn cael eu galw’n IPVs, defnyddir y tryciau hyn fel cerbydau blocio ac amddiffyn ar gyfer gweithwyr ar y lôn a modurwyr pan fo gwaith â thraffig yn symud. Mae'r cerbydau’n cynnwys ceibrau gwelededd amlwg, arwyddion a goleuadau rhybuddio a Chlustogau Taro ar Lorïau (LMCCs). Mae ein holl glustogau taro wedi’u dylunio ar gyfer gwrthdrawiadau hyd at 100km/a (62 mya).

Cerbydau Diogelu rhag Trawiad (IPV)

NODWEDDION CERBYDAU DIOGELU RHAG TRAWIAD:

Cerbydau Diogelu rhag Trawiad
System Diogelu rhag Trawiad yn cael ei defnyddio ar gerbydau pwrpas deuol, gydag arwyddion rhybuddio ac offer rheoli traffig

Clustog Taro ar Lori (LMCC)

Gellir cyflenwi’r cerbydau mewn amrywiaeth o ffurfiau i siwtio gofynion y cleientiaid:

Mae'r cerbydau fel arfer yn cynnwys raciau arwyddion, goleuadau rhybuddio, ardaloedd storio conau ac adrannau storio o dan y corff. Mae goleuadau lifft fertigol/ byrddau arwyddion yn cadw hyd y cerbyd i isafswm ar gyfer teithio a gall y gyrrwr eu defnyddio’n hawdd a chyflym drwy reolaeth electronig heb adael y cab.

Adeiladwaith dur galfanedig i barhau

Mae pob rhan corff a ddarperir gan Swords Traffic Management wedi’u galfaneiddio a’u hadeiladu mewn modd y gellir rhoi siasi newydd arnynt ar ôl 3/5 mlynedd.

Invest your money wisely - buy a galvanised body and when the truck has reached three to five years old, move the body to a new chassis and cut down on your replacement costs.

System Camera yn y cab

Mae’r nodwedd unigryw hon ar gerbydau Swords Auto yn anghenraid ar gyfer unrhyw un sy’n prynu Cerbyd Diogelu rhag Trawiad newydd.

Uned rheoli gyfrifiadurol yn y cab

Mae pob un o'n cerbydau rheoli traffig gyda chamera edrych yn ôl yn y cab ynghyd â monitor lliw a sain ar gyfer diogelwch gyrrwr y cerbyd ac unrhyw un arall. Mae'r system gamera hon yn gweithredu fel ffynhonnell leoli eilaidd o mewn perthynas â thraffig sy’n teithio tuag ato. Gellir cyflenwi systemau camera i'r ardal waith hefyd. Mae camerâu ochr hefyd yn ategyn dewisol os oes angen.

Uned rheoli gyfrifiadurol yn y cab

Mwy o wybodaeth ar yr Uned Rheoli Gyfrifiadurol

Nodweddion diogelwch ar ein cynnyrch

Mae stepiau melyn â chôt bowdr arnynt ar ochr y gyrrwr a’r teithiwr o’r cab er mwyn diogelwch

Os oes gennych unrhyw ofynion pellach o ran nodweddion diogelwch, fel arfer gellir cynnwys y rhain ar adeg archebu.

Bwrdd Saeth Cyfeirio Lifft Fertigol

Mae Bwrdd Saeth Cyfeirio Lifft Fertigol Swords yn cynnwys bwrdd saeth cyfeirio halogen goleuedig Nissen ar y cyd â bwrdd 7403 llawn adlewyrchol gyda 340mm pedair ffordd.

Mae'r ffrâm ddur galfanedig isafswm o rannau sy'n gweithio ac mae’n gweithredu ar system ram hydrolig deuol, sy'n lleihau'r gwaith cynnal sydd ei angen. Mae'r bwrdd ar ramiau dwbl, sy'n rhoi rheolaeth lwyr i’r gweithredwr wrth godi neu ostwng y bwrdd.

Credwn mai’r gyfrinach yw symlrwydd - a dim problemau gwifrau dur i’w datrys!

Clustog Daro Safestop 90


Mae Swords Traffic Management yn ymfalchïo yn ein gallu i gynhyrchu cerbydau i fanylebau ein cleientiaid. Mae gennym hefyd fflyd helaeth o gerbydau rheoli traffig i'w llogi. Rhowch ganiad i ni ar 01978 664423 neu 07810 745656. Fel arall, llennwch ffurflen ymholiadau ac fe gysylltwn â chi cyn gynted â phosibl.

Ar gyfer Iwerddon, ffoniwch Richard ar 00353 086 7812526.

Top y dudalen

(Yn ôl)

Baner Cymru


English


Rheoli Traffig Cyflymder Mawr Ffyrdd Deuol a Thraffyrdd
Mae ein IPVs wedi'u dylunio i'r safonau diweddaraf ac i gwrdd â gofynion heriol heddiw ar gyfer rheoli traffig traffyrdd a chefnffyrdd.

 

Cerbydau Diogelu rhag Trawiad

 

Y System Diogelu Rhag Trawiad yn sefyllfa’r cludiant

Y System Diogelu Rhag Trawiad yn sefyllfa’r cludiant.

 

System diogelu rhag trawiad gyda rheolaethau yn y cab

Mae'r gyrrwr yn defnyddio’r system diogelu rhag trawiad gyda rheolaethau yn y cab.


NEWYDD!! MODEL PENODOL I DWNELI GYDAG UCHDER GWEITHREDU O 4.50M

Caiff anghenion gyrwyr a gweithwyr eu trin bob amser gan staff yn Swords Auto sydd hefyd â chymwysterau Lantra Awards ac sy'n gwybod beth sydd ei angen i wneud y cerbydau hyn mor hawdd i’w defnyddio â phosibl.


Mae gennym hefyd Gerbydau IPV a Cherbydau Rig Rhwystr Cyfun.

 

Cerbyd IPV a Cerbyd Rig Rhwystr Cyfun

Mynd i dudalen IPV/ Rig Rhwystr Cyfun...